Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

ADWY'RCLAWDD.

ENTREFELIN, MALDWYN.

Y DIWYGWYR YN MOZERAH A LLANOVER.

SUNDERLAND.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

SUNDERLAND. Bydd yn dda gan ein cyfeillion yn Nghymru ddeall fod yr awelon o ben Calfaria wedi cyraedd atom ninau sydd yn byw ymhen draw Durham Co., a bod dylanwad rhyfeddol yr awelon wedi gadael eu hoi ar hyd y ffordd o Gymru dlos, Mae canoedd o eneidiau wedi eu dychwelyd at Waredwr y byd,' yn ystod misoedd cyntaf y flwyddyn hon, a phar- hant i ddod, er gwaethaf teyrnas y tywyllwch sydd yn gwneyd ei goreu ymhob modd er atal y dylan- wadau. Mae diwygiad grymus yma yn Sunderland er's wythnosau, ac ami i gartref He y bu y gelyn-ddyn yn teyrnasu yn hir, wedi ei lanhau a'i drefnu; ac ami i gastell o eiddo y diafol wedi ei dynu i lawr. Yn wir mae pethau mawr wedi cymeryd lie ymysg ein cyfeillion y Saeson. A da iawn genyf fod Duw yn cofio o hyd am blant ardaloedd anwyl Cvmxu,, rhai o honynt oedd wedi anghofio Duw eu tadau^ wedi anghofio gweddiau tad a mam, ac ymollwng gyda lliieinant temtasiynau. Mae yr eglwys Gymraeg wedi ei deffro at ei gwaith, llawer o'r aelodau oedd yn oer a didaro- wedi cychwyn gydag yni newydd. Cynhelir cyfar- fodydd gweddiau cyson er dechreu y flwyddyn, a chelf ami un yn y t/ii liefyd. Mae 17 o bersonau wedi rhoddi eu hunain i Grist a'i eglwys er dechreu y flwyddyn. O! mae ein pobl ieuainc wedi. eu gwisgo a nerth amlwg, nerthoedd y tragwyddol Ysbryd," i sefyll i fyny dros Grist, rhai fu unwaith mor wylaidd ac ofnus; yn gyvneyd pobpeth allent, ,ac yn gweddio yn gyhoeddus bob cyfle gant. Ein dymuniad yw ar i Dduw byddinoedd Israel eu defn- yddio yn offerynau yn ei law er achubiaeth eu per- thynasau a'u cyfeillion, y rhai nad ydynt yn gweled eu hangen am Waredwr, ac nad ydynt ychwaith yn gallu prisio yr ymdrech a wneir gan bobl yr Arglwydd ar eu rhan. Rhaid i ni ddweyd fod gan y diafol afael gref ar rai o'n cydgenedl yma eto ond mae Un cryfach na':r cryf arfog,* a chredwn y dygir eto lawer pentewyn gwerthfawr i'r lan yn ddiogel; y cawn eu gweled yn newid eu meistr caled fel y rhat sydd eisoes wedi gwneyd, am yr Un a. daywedoad, "Cymerwch fy iau arnoch, a dysgwch geilyf, canys addfwyn ydwyf a gostyngedig o gaJon a chwi a gewch orphwysdra i'ch eneidiau." Cerdd ymlaen nefol dan, Cyraer yma feddiant glan." 4

BRYNMAWR, LLEYN.