Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

ADWY'RCLAWDD.

ENTREFELIN, MALDWYN.

Y DIWYGWYR YN MOZERAH A LLANOVER.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y DIWYGWYR YN MOZERAH A LLANOVER. GAN Y PARCH. W. JONES, MOZERAH. Bu Mr. Sidney Evans a Mr. Sam Jenkins yn cynal cyfres o gyfarfodydd diwygjiadol yn y lleoedd uchod dyddiau Gwener, Sul, a Llun„ Mawrth 3, 5, a'r 6ed. Trefn y cyfarfodydd oedd fel y canlyn :—Gwener, prydnawn a hwyr, Mozerah ■ Sul, boreu, Llanover; prydnawn a hwyr, Mozerah; Llun, prydnawn a hwyr, Llanover. Dechreuodd y tan diwygiadol yn Llanover yn union wedi toriad allan y Diwygiad. Y mae yn Llanover ddynion naturiol wresog—dynion ag oedd yn dyheu er's llawer blwyddyn am adfywiad crefydd- ol yn y wlad—fel pan ddaeth y Diwygiad yr oeddent yn barod am dano. Aeth amryw o honynt ymhell er cael eu meddianu ganddo; meddianwyd hwy yn hollol, ac wedi iddynt ddychwelyd adref, medd- ianwyd yr holl eglwys, a byth oddiar hyny y maent wedi bod yn llawn brwdfrydedd a gweithgarweh crefyddol. Dechreuodd yr un gwres, ysbrydol yn Mozerah yn gynar yn y gauaf. 'leg yw dweyd fed yma ysbryd byw ,grymus, yn gweithio yn yr eglwys hon er tua dechreu Tachwedd, ac hyd yn awr y mae y gwres a'r brwdfrydedd distaw tawel wedi bod yn graddol gynyddu. Yr oedd ymweliad y ddau ddiwygiwr ieuainc gan hyny a'r eglwysi hyn yn amserol iawn, a phrofodd o gymhorth a bendith anmhrisiadwy iddynt: hefyd i'r eglwysi cylchynol.- Cyrhaeddodd y brwdfrydedd ysbrydol yn uchel iawn ar rai adegau. Yr oedd Ysbryd Duw yn ddiameu yn gweithio yn rymus yn nghalonau Ei bobl, a nerthoedd y byd a ddaw- i bob ymddangosiad—yn eu gorchfygu yn lan. Heblaw hyn, y mae crefydd ein Harglwydd Iesu Grist bellach wedi ei chodi i sylvT y mwyaf difeddwl a difater yn y wlad. Fe erya yr argraff yn hir; a'n gweddi yw am iddi gael ei dyfnhau, ac y byddo i bob un, sydd wedi ei gyffwrdd, a'i glwyfo, orfod rhoddi i fyny, a dod, dan ei glwyfau, at y""Meddyg rhad." Fe ddichon y gellir nodi dau beth mewn cysylltiad ag eglwys Mozerah—y tybid gan rai eu bod yn mil- wrio yn erbyn y posibilrwydd o frwdfrydedd mawr, tebyg^ |'Jr hyn sydd wedi nodweddu cyfarfodydd diwygiadol mewn lleoedd poblog, sef (a) Nid oes yma bentref yn y byd, saif y capel ,ar ei ben, ei hun mewn gwlad eang, a theithia'r aelodau a'r gynulleidfa—rai o honynt—y mwyafrif yn wir—amryw filldiroedd o bob cyfeiriad i'r oed- faon. Y mae agosrwydd pobl at eu gilydd yn enwedig pobl dduwiol yn ddiameu yn fantais.' (b) Amddifadrwydd bron yn hollol o'r hyn a elwir yn "hwyl Gymreig. Y mae yn ddiameu genym fod Duw- wedi, ac yn defnyddio y brwdfrydedd naturiol hwn er dwyn i ben amcanion Teyrnas ei Fab. Er hyny i'r graddau yr ymddibynir arno for effect' yr anwybydclir Ysbryd Duw ac y perir iddo gilio. (Tybed fod a fyno hyn i fesur a'r tawelwch sydd bellach er's llawer dydd wedi dechreu meddianu yr eglwysi P) "<Efe' a argyhoedda y -byd Q bechod Q gyfiawncjer \\9 0 fa?n," a'm gogonedda I: canys Efe' a gymer o'r eiddof ac a'i mynega i chwi." Eithr arhoswch chwi yn ninas Jerusalem, hyd oni wisger chwi a nerth o'r ucbelder.' Parodd y ffaith fod yr eglwys hon mor wasgarog ac i fesur yn amddifad o'r gwres naturiol Cymreig i rai dybio mai ffolineb i'r eithaf fyddai ymweliad o eiddo y diwygwyr a lie o'r fath; ond yr oedd y dybiaeth yn hollol anghywir. Clywais rai oedd yn bresenol yn dweyd ac yn taeru, er eu bod wedi mynychu rhai o gyfarfodydd mwyaf brwdfrydig y diwygiad, na phrofasant ddim mor nerthol a gorch- fygol a'r hyn brofwyd ganddynt yn y cyfarfod nos Sul yn Mozerah. Heb os, yr oedd Ysbryd Duw yn cyniwair drwy y lie; ac er nad oedd yma nac an- nhrefn na gwylltineb, eto wylai dynion cryfion fel plant, ocheneidiai ugeiniau o honynt yn ddistaw ar eu gliniau wrth y s iti wrth Orsedd gras, rhai am faddeuant, craill am achubiaeth eneidiau eu cymydogion a'r wlad, &c. Yr oedd yr un peth mawr angenrheidiol wedi dod yn amlwg: iawn, sef bod yr awenau yn llaw Ysbryd Duw. Yr oedd yma le rhyfedd. Y mae hyn yn wir i fesur mwy neu lai am holl gyfarfodydd y gyfres yn y ddwy eglwys hon. Peth arall, ni chaniatawyd yr un. cyfarfod yma fyn'd dros haner awr wedi naw yn yr hwyr, ac eto ni ddiffoddwyd yr Ysbryd. Yr anhawsder mawr oedd gorphen. Yna ai'r bobl adre, rhai mewn dwys- fyfyrdod, eraill dan wylo, a'r gweddill a'u calonau i bob ymddangosiad ar dan yn moli Duw. Tystiai hen bererinion Sion, Gwelsom bethau anhygoel heddyw." Yr oedd y diwygwyr yn eu hwyliau goreu. Siaradai Mr. S. Evans gyda gwen ddengar ar ei holl wedd; ond yr oedd ton ei lais, osgo ei gorff, treom ei lygad, a thafliad ei law yn dweyd yn glir daer- ineb ei enaid a'i fod yn llosgi am achub eneidiau. Y mae yr un peth yn wir am Mr. S. Jenkins. Dad- ganai drefn Duw i gadw gyda'r fath swyn, dawnsiai llawenydd ar ei wefus a llonder byw ar ei rudd, nes cynesu pob calon a'i clywai. Bendith y nefoedd arnynt—Gweision y Duw Goruchaf. Dywedodd amryw yn ystod y cyfarfodydd eu bod am dderbyn y Gwaredwr a'i ganlyn o hyn allan. Nis gallaf gofnodi gweddiau, &c., y bobl, nid am fy mod wedi anghofio eu hysbryd taer a'u dy- wediadau tarawiadol; na, y maent yn fyw yn fy meddwl y funud hon. Nis anghofiaf rai o honynt byth, ond am fy mod yn credu y byddai hyny yn feiddgarwch nad wyf am fod yn euog o hono, Yr ydym yn gweddio am i'r diwygiad barhau, ae am i Eglwys Mab Duw bael ei chadw wrth orsedd gras, fel y bo iddi gael ei llanw eto a mesur hel- aethach o'r Ysbryd Glan, yr hyn a wna ei dibyniad ar ddim daearol a chnawdol yn fwy anmhosibl, Mi a ddeuaf atoch chwi," ac y mae am aros yn Ei Eglwys. Wele, yr ydwyf fi gyda chwi,nid am dymor, ond bob amser "—bob dyddiau—"hyd ddiwedd y byd." Tra y parhao yr eglwys wrth orsedd gras, fe bery yr Ysbryd yn yr eglwys, ac yna fe ddaw' hyn yn fwy gwir eto—<" Hwythau wedi clywed hyn, a ddwysbigwyd yn eu calon, ac a ddy- wedasant wrth Pedr, a'r apostolion eraill, Ha wyr, frodyr, beth a wnawn ni f" Gobeithio y cawn oil ras i ddod i fyny-—j. ymdrechu dod i fyny-ag amod- au y gwisgo a'r nerth o'r uchelder-sef gorphenol glan, presenol glan, cyffes lan o Iesu Grist, ac ufudd- dod glan i Ysbryd Duw. Pan y daw yr eglwys i hyn, bydd yn ofnadwy fel Uu banerog." < £ Galw arnaf, a mi a'th atebaf, ac a ddangosaf i ti bethau mawrion, ac anhawdd, y rhai nis gwyddost" (Jer* xxiii. 3).

SUNDERLAND.

BRYNMAWR, LLEYN.