Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

WILLIAMS' ^

Advertising

abermeurig.

SPENNYMOOR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

SPENNYMOOR. Mae y Diwygiad yii Ngogledd Lloegr ei's aniser bellach. Ond ei gychwyniad, fel y dywedais mewn llythyr blaenorol, i'w briodoli i adroddiadau y GOLEUAD. Yn Spennymoor, mae y cyfarfodydd gweddio undebol canol dydd a hwyr yn Gymraeg yn cael eu cario ymlaen er mis Rhagfyr. Ac mae cyfarfcdydd nos Sabbath er's mis. Mae yma yn bell dros gant o daychweledigion; ac mae deg yn em heglwys fach Gymraeg ni; ac yr oedd rhai o honynt yn feddwon penaf y lie. Ond yr ydym yn disgwyl ac yn credu fod y gawod fawr gerllaw, ac y byddant yn dyfod wrth y canoedd. Y mae genym ni yma 15,000 eisieu eu hacub, ac yn eu olith gan- oedd o GymIY. Ond yr hyn sydd yn ofidus i mi ydyw fod y Saeson yn myned o flaen y Cymry er ei fod wedi dechreu ymhlith y Cymry. Nid am nad wyf yn hofti gweled y Sais yn dyfod. ond eisieu yn fwy gweled y Cymro. Ond ddoe cefais y boddhad o weled y Cymry yn cael eu hachub gyda y Saeson Yr oeddwn yn pregethu yn Wheatley Hill, ac yr oedd dau ddiwygiwr ieuanc o Ilaswell, o fewn tair milldir i'r lie, gyda y Saeson Wesleyaidd. Ac ar derfyn y cyfarfod Cymraeg, aethym yno, a'r peth cyntaf gefais i'w wneyd oedd ceisio helou y dy- chweledigion at Iesu Grist, ac yn eu plith Gymro o Coedllai. Yr oedd y cyfarfod yn rhv ofnadwy gysegredig i geisio rhoi desgriiiad o hono. Daeth 60 i mewn nos Sul, 48 nos Sadwrn, 164 er dechreu yr wythnos. Yr wyf yn hiraethu am weled ei clebyg yma, son am 'emotion' yn Nghymru: mae pobl y wlad yma o bob cenedl yn cael eu cario gan eu teimladau, a pha ryfedd pan yn gweled eu cyd- ddynion fu am amser mor hir yn rhwydau pechod a Satan yn cael eu gollwng yn rhydd, ac yn molianu yr Iesu Grist. Gwelais bethau bendigedig yn Rhos Wrecsam, a Manchester, yr wythnos o'r blaen; ond mae cyfarfod Wheatley Hill i mi yn anhraethol fwy felly. Gweled dynion a merched yn dyfod yn ddau tri a phedwar gyda eu gilydd, i roi en hunain i Iesu Grist. Nid peth ar ei ben ei hun vw hwn, mae wedi tori allan yn Northumberland er's wythnosau ac mae amryw leoedd ar lanau y Tvne wedi cael profi pethau nerthol iawn, a'n gweddi yw Cerdd ymlaen nefol danr Cymer yma feddiant glan."

CWMNI YSWIRIOL Y PRUDENTIAL…